Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dysgwyr Dros y Byd

Wrth i filoedd o bobol ddysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo, Beca Brown sy'n cwrdd â rhai o'r siaradwyr Cymraeg newydd. Meeting people who've learnt Welsh during the pandemic.

Beca Brown sy'n cwrdd â rhai o'r miloedd o bobl o bob man yn y byd sydd wedi dysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo.

Yn y rhaglen hon cewn gwrdd â:

BEN OWEN-JONES
Cafodd Ben ei fagu yn Portsmouth a bu’n actio yn y ddrama Grange Hill pan oedd yn 11 oed. Wedi torri ei gefn mewn damwain, symudodd i Gymru yn 1996 i ddilyn cwrs coleg yng Nghasnewydd, lle mae e hefyd wedi bod yn ddarlithydd celf. Mae wedi dechrau dysgu Cymraeg ar-lein gan gadw dyddiadur sain o’i ymdrechion.

OLIVER LLEWELLYN
O Swydd Efrog yn wreiddiol mae Oliver newydd ddechrau dysgu disgyblion wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers y pandemig. Ar ôl symud i Maryland yn yr Unol Daleithiau penderfynodd ddysgu Cymraeg gan fod ei dad-cu yn dod o Bort Talbot. Er nad oes llawer o gyfle i siarad Cymraeg yno, mae’n cyfrannu ar lein drwy gymdeithas Washington Welsh ac yn cynnal sesiynau sgwrsio Duolingo.

MOHINI GUPTA
Mae’r bardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, yn gwneud gwaith ymchwil ym mhrifysgol Rhydychen ac ers Medi 2020 mae wedi ail gydio yn ei Chymraeg. Treuliodd dri mis yn Aberystwyth yn 2017 o dan nawdd Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a Sefydliad Mercator. Mae wedi cyfieithu cân boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac yn gobeithio cryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol.

JAMIE DUFFIELD
Jamie Duffield yw prif fragwr cwmni Wild Weather Ales yn Reading. Gan fod y bragdy ar gau ar ddechrau’r Cyfnod Clo roedd yn rhaid iddo addasu’r gwaith o gynhyrchu casgenni i werthu cwrw mewn caniau a dyfeisio cwrw newydd. Roedd teithio am awr bob ffordd bob dydd yn y car yn gyfle iddo ddysgu Cymraeg. Mae’n teimlo ei fod yn ail-gysylltu â’i wreiddiau gan fod teulu ei dad yn dod o ogledd Cymru.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 11 Hyd 2021 18:30

Darllediad

  • Llun 11 Hyd 2021 18:30