Clawdd Offa
Crwydro Clawdd Offa drwy archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Dewch am dro ar hyd Clawdd Offa - cychwyn yn y gogledd ym Mhrestatyn a gorffen yn Sedbury yn ochrau Cas-gwent.
Mae Alun Wyn Bevan wedi sgwennu llyfr am Glawdd Offa yn y gyfres Cip ar Gymru ac mi fydd yn rhannu uchafbwyntiau'r daith gyda John Hardy.
Sgwrs gyda Rhys Jones ym Mhrestatyn, cyn symud i Ruthun ac ymlaen i gartref yr Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen.
Galw wedyn yng Nghastell y Waun yng nghwmni John Bwlchllan a Tom Ellis cyn ymweld â swyddfa'r Cymro yng Nghroesoswallt.
W.R. Evans sydd ym mhentref Llanymynech - hanner yng Nghymru a'r hanner arall yn Lloegr!
Ysbaid fach yn nhref farchnad y Trallwng lle mae Dei Tomos yn ymweld ag Elwyn a Nest Davies, selogion a chymwynaswyr yr Urdd.
Ymlaen i'r Gelli Gandryll ac yna i lawr i glywed Dafydd Huw Williams yn sôn am y Rolls Royce. Roedd cartref teuluol Charles Rolls ym Mhlasty’r Hendre yn Llanoronwy Carn Cenhedlon tu allan i Drefynwy.
Cawn ymweld â Chas-gwent yng nghwmni Sioned Davies wrth iddi sôn am chwedlau'r ardal, cyn gorffen y daith yn Sedbury - taith o 177 milltir.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 3 Hyd 2021 14:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2 & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Mer 6 Hyd 2021 21:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2 & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru