Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Plentyndod

Rhigymau, llenyddiaeth plant ac atgofion o ddyddiau ysgol. Plentyndod yw thema'r rhifyn yma yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Lyn Ebenezer a Charles Arch yw'r cwmni yn siarad am ddychwelyd i fro eu mebyd ac ailgydio ym mhethau a phobl eu plentyndod yn ardal Pontrhydfendigaid. Cawn glywed hanes Mrs Mathias o odre Sir Aberteifi a fu'n trafod dyddiau ysgol gyda T J Morgan. Dyddiau oedd yn cynnwys gemau ysgol a'r "Welsh Not" a fe recordiwyd y pwt yn 1939 ar hen beiriant recordiau. Mwy o rigymau wedyn gan Sian Williams, Tyn y Gongl, Ynys Môn a oedd yn 90 oed pan yn sgwrsio yn 1986.

Eirene Davies sef gweddw T Rowland Hughes yn cofio ei phlentyndod yn y Rhondda a cofio bod y cynta i ganu'r gân werin "Ble Rwyt ti'n Myned?". Merch y Rhyfel Mawr oedd Mary Keir a anwyd yn Sir Benfro ym Mis Mawrth 1912 ac mae ei hatgofion ymysg rhai o drysorau archif Radio Cymru. Mi gafodd yr awdures Marion Eames ei geni ym Mhenbedw ond fe dreuliodd ei phlentyndod a'i dyddiau ysgol yn Nolgellau.

Pat Williams o Lerpwl yn trafod ei hymchwil i gyfeiriadau at blentyndod yn ein llenyddiaeth ac yna Jane Evans yn trafod magu plant efo T Glynne Davies.
Y Welsh Whisperer ac Ifan Evans yn clywed am ddireidi Cai o Bancyfelin cyn cloi'r rhaglen efo hanes merch T Osborne Roberts a Leila Megane, sef Isora Hughes, a gafodd ei magu gan Nani.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 22 Medi 2021 21:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 19 Medi 2021 14:00
  • Mer 22 Medi 2021 21:00