Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cofio: Caernarfon

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy yn canolbwyntio ar dref Caernarfon. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy focusing on Caernarfon.

Tref Caernarfon sy'n cael sylw John Hardy wrth bori'r archif am atgof a chân.

Ceir amryw o hanesion diddorol gan gynnwys clip o'r pensaer Harris Thomas fu’n damcaniaethu bod cysylltiad gyda Chôr y Cewri yn 1987. Maldwyn Thomas sydd â hanes y papur newydd Caernarfon Herald yn 1831 a'r comedïwr Richard Hughes sef y Co' Bach yn cofio Y Pafiliwn.

Cawn hanes y gân draddodiadol Llongau Caernarfon ac mae Meirion MacIntyre Huws yn datgelu rhai o gyfrinachau'r gân boblogaidd 'Yma Wyf Finna i Fod'.

Margaret Glenys Ellis neu Madam Sera sy'n darllen y sêr i roi cyngor i wrandawyr 'Helo Bobl' ac Emrys Llewelyn sy'n esbonio ychydig am dafodiaith unigryw'r dref.

Yr actor Llion Williams sy'n cofio gweithio yng nghanolfan Noddfa gyda phobol ifanc Ysgubor Goch ac IB Griffith sy'n sôn am angladd un o gymeriadau mawr y dref - Wil Napoleon. Clywir hefyd sylwebaeth o'r Arwisgo Brenhinol yn 1969 a barn y rhai o drigolion Caernarfon oedd yno.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 2 Rhag 2020 21:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 29 Tach 2020 14:00
  • Mer 2 Rhag 2020 21:00