Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Yr Urdd

Dathlwn Yr Urdd ar Cofio heddiw trwy archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. We celebrate the Urdd today on Cofio with a visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Estynnwch am eich gonc Mistar Urdd, piniwch eich bathodynnau a gobeithio y caiff neb gam gan y beirniad! Er bod wythnos Eisteddfod Yr Urdd yn edrych yn dra gwahanol eleni, rydyn ni, yma ar Cofio am hel atgofion gyda chi o'r 'steddfodau a fu, a chlodfori mudiad ieuenctid mwyaf Ewrop - Yr Urdd. Fe ddarlledwyd y rhaglen hon yn wreiddiol yn 2010, a werth ei chlywed eto!

Fe awn yn ôl i'r dechrau un a chlywn eiriau Syr O.M Edwards yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd,1918. Ymlaen wedyn i gyfraniadau gan Syr Ifan Ap Owen Edwards yn sôn am sefydlu’r Urdd yn 1922.

Eurfyl Jones sy'n sôn am wersyll cyntaf yr Urdd yn Llanuwchllyn nôl yn 1928, tra bod Nest Davies a Gari Nicholas yn rhannu atgofion o gystadlu pan yn ifanc.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 27 Mai 2020 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 24 Mai 2020 14:00
  • Mer 27 Mai 2020 18:00