Cofio
Rhifau o bob math ar ffurf archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy - this week, we're looking at 'Numbers'
Weithiau mae'n hyfryd pori drwy raglenni Cofio o'r gorffennol, a dyna'n union wnaethon ni gyda'r rhaglen yr wythnos hon. Fe ddarlledwyd yn wreiddiol yn 2016, a werth ei chlywed eto. Gyda sawl cân gyda rhif yn gysylltiedig â hi, ambell i gwis a llu o bytiau hyfryd, ma na wledd o bytiau rhifol yma at ddant pawb.
Deg Stryd Downing sy'n cael sylw'r diweddar Dr John Davies a'r Deg Gorchymyn sydd ar feddyliau John Meredith a thrigolion Aberystwyth. Daw Karen Owen a rhifau o bob math i'n sylw wrth sgwrsio gyda Nia Roberts.
Gwyn Griffiths sy'n esbonio sut y cafodd e'r syniad o greu siart cerddoriaeth i Gymru tra bod Huw Llywelyn Davies yn hel atgofion am y gêm anghofiadwy honno yn 1972 pan oedd Llanelli 9 - Seland Newydd 3 yn rhifau i ddathlu!
Tomos Roberts sy'n ein tywys drwy enwau llefydd sy'n cynnwys rhifau, a chlywn dafodiaith hyfryd Olwen Samuel yn trafod y rhif 9.
Yn sôn am bwysigrwydd ofergoelion i'r glöwr, mae'r cyn glöwr Ceri Thompson yn esbonio arwyddocâd y rhif 107. Am dro yn y car awn ni gyda Cassie Davies wrth iddi sôn am hanes taith yn yr Austin 7….ar y ffordd nôl o Lanwrtyd. Llond trol o rifau i aros pryd!
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 19 Ebr 2020 14:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2
- Mer 22 Ebr 2020 18:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2