Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dim Croeso '69 - Gwrthsefyll yr Arwisgo

Sgyrsiau'n cynnwys Arwel Vittle yn trafod ei gyfrol yn nodi hanner canrif ers yr Arwisgo. Arwel Vittle tells Dei about his book marking the fiftieth anniversary of the Investiture.

Cyfrol ddiweddaraf Arwel Vittle yw Dim Croeso '69 - Gwrthsefyll yr Arwisgo, a mae'n ymuno â Dei i'w thrafod.

Hanes melinau gwynt Sir Fôn sy'n mynd â bryd Richard Holt ac Arwyn Owen, wrth i Peter Hughes Griffiths sôn am un o gymeriadau ei bentref genedigol yn Sir Gaerfyrddin. Mae tafarn Dre-fach Felindre wedi'i henwi ar ôl John Evans, y cyn-athro a'r cyn-gynghorydd.

Mae Dei hefyd yn cael cwmni Sian Rhiannon, i glywed rhagor am Elen Evans. Bu'n bennaeth ar goleg hyfforddi merched yn athrawon yn Y Barri am ddeng mlynedd ar hugain, a gwnaeth lawer i hybu Cymreictod yn y cymoedd.

1 awr, 28 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 9 Meh 2019 17:30

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Heather Jones

    Pan Ddaw'r Dydd (Byw)

    • Cyngerdd Y Mileniwm II: Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru.
    • SAIN.
    • 14.
  • Dafydd Iwan

    Yno Yr Wylodd Efe

Darllediad

  • Sul 9 Meh 2019 17:30

Podlediad