Brexit a Michael Jackson
Yn ogystal â Brexit, trafodaeth hefyd ar wahaniaethu rhwng yr artist a'r celfyddyd. In addition to Brexit, Vaughan and guests discuss distinguishing between the artist and the art.
Ychydig ddyddiau cyn i Aelodau Seneddol bleidleisio eto ar gytundeb Theresa May, mae'r Prif Weinidog yn annog yr Undeb Ewropeaidd i'w helpu i gael sêl bendith Tŷ'r Cyffredin. A yw gwneud hynny'n gyhoeddus yn gydnabyddiad ei bod hi mewn dipyn o dwll?
Mae Vaughan Roderick a'i westeion hefyd yn trafod honiadau o gamdriniaeth rywiol yn erbyn Michael Jackson, a hynny mewn rhaglen ddogfen bron i ddegawd ers iddo farw. Dyma ofyn, felly, a yw'n bosib ac yn dderbyniol i wahaniaethu rhwng yr artist a'r celfyddyd, ynteu a yw'r celfyddyd yn colli statws oherwydd natur yr artist?
Beti George, Russell Isaac a Dr. Elin Royles sy'n gwmni i Vaughan.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Gwen 8 Maw 2019 12:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2 & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Podlediad
-
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.