Brexit a Trump
Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Papur Gwyn Brexit a Donald Trump yn dod i Brydain. Vaughan Roderick and guests discuss the Brexit white paper and Donald Trump's UK visit.
Wedi'r holl aros, mae 'na rywbeth ar ddu a gwyn am gynlluniau Llywodraeth Theresa May ar gyfer Brexit, ond fe ddaeth y papur hwnnw ar ôl i ddau aelod amlwg o'r Cabinet ymddiswyddo. A fydd Mrs. May yn gweld eisiau David Davis a Boris Johnson, ynteu a yw hi mewn sefyllfa gryfach ar gyfer gweddill y bargeinio sydd i ddod cyn diwedd Mawrth 2019?
Un sydd wedi lleisio barn ar y cynlluniau, a hynny'n gwbl ddi-flewyn ar dafod, yw Donald Trump. Fe wnaeth e hynny cyn ei ymweliad swyddogol cyntaf â Phrydain fel Arlywydd, ac mae nifer yn gwrthwynebu'r ymweliad.
Bethan Sayed, Arwel Ellis Owen a Dr. Sarah Hill sy'n ymuno â Vaughan Roderick.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Gwen 13 Gorff 2018 12:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2 & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Podlediad
-
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.