Arweinyddiaeth ac Ynni
Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod rhai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Vaughan Roderick and guests discuss some of the week's political stories.
Gyda Llafur a'r Ceidwadwyr yn paratoi ar gyfer cyfnod newydd o arweinyddiaeth yn y Cynulliad cyn diwedd 2018, a chyda chryn ddyfalu am ddyfodol arweinyddiaeth Plaid Cymru, mae gan Vaughan Roderick a'i westeion fwy na digon i'w drafod. Pwy ddaw yn lle Carwyn Jones ac Andrew RT Davies, ac a fydd yna ornest am swydd Leanne Wood?
Trafodaeth hefyd ar ddyfodol diwydiant ynni Cymru. Wrth i'r paratoadau ar gyfer gorsaf ynni niwclear ar Ynys Môn barhau, mae Llywodraeth Prydain bellach wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n cefnogi cynllun i ddatblygu morlyn llanw cynta'r byd ym Mae Abertawe, felly beth nesaf?
Vaughan Hughes, Steffan ap Dafydd a Haf Elgar sy'n ymuno â Vaughan.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediad
- Gwen 29 Meh 2018 12:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2
Podlediad
-
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.