Pwysau Arholiadau
A yw arholiadau'n rhoi gormod o bwysau ar ddisgyblion? Mae tair merch wedi cadw dyddiadur. Do exams put too much pressure on pupils? Three have kept a diary.
Wrth i Childline gyhoeddi cynnydd yn nifer y disgyblion ym Mhrydain sy'n cysylltu â nhw oherwydd pryderon am bwysau arholiadau, dyma raglen am rai o'r bobl ifanc sydd wedi bod yn ei chanol hi dros y misoedd diwethaf.
Mae tair merch wedi cadw dyddiadur o'u profiad. Sut maen nhw'n teimlo, tybed, ynglŷn â'u harholiadau TGAU a Lefel A?
Mae'r rhaglen hefyd yn clywed gan ferch wnaeth roi'r gorau i'w hastudiaethau dri mis cyn ei harholiadau Lefel A, gan fod y straen yn ormod.
Mae rhai o fewn byd addysg cynradd hefyd yn mynegi pryder bod y system profion cenedlaethol yn dechrau'n rhy gynnar, gan roi straen annheg ar blant mor ifanc â chwech oed.
Yn bwnc amserol, gyda nifer o newidiadau ar y gweill, mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn egluro ei gweledigaeth, a sut y bydd y newidiadau'n gwella'r system bresennol.
Darllediad diwethaf
Clipiau
Darllediadau
- Iau 28 Meh 2018 12:30Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2
- Sul 1 Gorff 2018 16:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.