Main content

Eleri Twynog Davies

Beti George yn sgwrsio gydag Eleri Twynog Davies, sylfaenydd cwmni drama Mewn Cymeriad. Beti George chats with Eleri Twynog Davies.

Mae syniad da, sy'n cydio yn nychymyg pobl, yn medru mynd yn bell iawn, a dyna sydd wedi gyrru Eleri Twynog Davies trwy gydol ei gyrfa ym myd marchnata.

Mae wedi hyrwyddo gwyliau fferm i'r Bwrdd Croeso, ac arwain gwaith marchnata'r Eisteddfod mewn cyfnod pan oedd y syniad hwnnw'n un newydd. Bu hefyd yn bennaeth marchnata yn S4C, gan reoli cyllideb o Β£3 miliwn, a chyflwyno'r syniad o sioeau Cyw.

Cafodd ei magu yn Aberteifi, ac mae'r atgofion am ei phlentyndod yn rhai hynod hapus.

Pan oedd yn y chweched dosbarth, daeth hi a chriw o ferched eraill yr ysgol at ei gilydd i ffurfio'r grΕµp Cwlwm, gan ryddhau sawl albwm a theithio'n helaeth.

Astudiodd ddrama a Chymraeg ym Mangor, cyn symud i Guildford i ddilyn cwrs M.A. mewn twristiaeth a marchnata.

Er ei bod yn rhy swil i fod yn actores ei hun, mae wrth ei bodd gefn llwyfan, ac wedi dychwelyd i fyd drama ers gadael S4C.

Y syniad sy'n ei gyrru hi heddiw yw cyflwyno hanes Cymru i ddisgyblion ysgol.

Sefydlodd gwmni Mewn Cymeriad, sy'n darparu sioeau un person yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol, a hefyd GΕµyl Hanes Cymru i Blant.

Mae'n credu'n angerddol bod dysgu hanes eich gwlad yr un mor bwysig ΓΆ dysgu ei hiaith, er mwyn creu ymdeimlad o berthyn.

Ar gael nawr

46 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 14 Meh 2018 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Ail Symudiad

    Geiriau

    • Blas O.
    • SAIN.
    • 10.
  • Cwlwm

    Cofio

    • Heddiw 'Fory.
    • Sain Records.
    • 8.
  • Bryn Terfel & Various Artists

    Hafan Gobaith

    • Hafan Gobaith / Another Day 2003.
    • Sain.
  • U2

    Beautiful Day

    • Now 47 (Various Artists).
    • Now.

Darllediadau

  • Sul 10 Meh 2018 12:00
  • Iau 14 Meh 2018 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad