Main content
Mae’n ddrwg gennym β€˜dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ΒιΆΉΤΌΕΔ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gogledd Iwerddon

20 mlynedd ers cytundeb Gwener y Groglith, faint o newid sydd wedi bod i bobol Gogledd Iwerddon? 20 years on, how has the Good Friday Agreement changed lives in Northern Ireland?

Ugain mlynedd yn Γ΄l roedd arweinwyr y byd yn llongyfarch pobol Gogledd Iwerddon, a'u harweinwyr, am ddewis heddwch dros drais pan bleidleisiodd mwyafrif dros Gytundeb Dydd Gwener y Groglith.
Ond yn hytrach na dathlu digwyddiad hanesyddol 1998, mae Gogledd Iwerddon yn Γ΄l yn y penawdau am y rhesymau anghywir.
Mae dyfodol y ffin rhwng y gogledd a gweddill ynys Iwerddon yn creu cur pen oherwydd Brexit. Dydi'r llywodraeth yn Stormont ddim wedi cyfarfod ers dros flwyddyn oherwydd anghydfod rhwng pleidiau Sinn Fein a'r DUP. Yn San Steffan, mae Theresa May wedi ffurfio llywodraeth leiafrifol gyda help y blaid unoliaethol, y DUP, a nifer yn darogan gwae am effaith hyn ar y broses heddwch.
Mae Manylu yn teithio i Ogledd Iwerddon i weld sut mae bywyd wedi newid ers 1998, ac i ofyn beth ddaw yn y dyfodol?
Mae'r rhaglen yn clywed hanesion pobol wnaeth fyw drwy'r cyfnodau gwaethaf a'r rhai sydd wedi dychwelyd oherwydd cytundeb 1998. Dywed rhai am eu pryder am effaith yr holl densiwn gwleidyddol diweddar ar y broses heddwch a'u bywydau bob dydd. Mae'r rhaglen hefyd yn clywed gan Gymry sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon ac sy'n dweud nad oes cymhariaeth rhwng heddiw a dyddiau du'r gorffennol, ond bod ffordd bell iawn i fynd o hyd i gael gwir heddwch.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 1 Ebr 2018 16:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Gweld holl benodau Manylu

Darllediadau

  • Iau 29 Maw 2018 12:30
  • Sul 1 Ebr 2018 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad