Main content

Gwion Hallam

Y bardd Gwion Hallam, enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ynys MΓ΄n 2017, yw gwestai Beti George. Beti George chats to poet and scriptwriter Gwion Hallam.

Y Prifardd Gwion Hallam yw gwestai Beti George yr wythnos yma.
Magwyd Gwion yn Rhydaman yn un o 3 o frodyr, ond mae'n byw bellach yn y Felinheli gyda'i wraig a'u pedwar mab. Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydman, Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa ac yna i Goleg Prifysgol Aberystwyth, gan raddio mewn drama. Cafodd Gwion fagwraeth Gristnogol gref ond nid yw'n arddel unrhyw enwad na chrefydd bellach. Mae'n gweithio yng Nghaernarfon fel cynhyrchydd teledu ac wedi creu rhaglenni yn arsylwi'r berthynas rhwng plant bychain a phobl sy'n byw gyda dementia. Cafodd ei gyffwrdd gan y profiad, a dyna'r hedyn ysbrydolodd ei gerdd "Trwy Ddrych" a arweiniodd at ennill y Goron.

Ar gael nawr

49 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 21 Rhag 2017 18:00

Darllediadau

  • Sul 17 Rhag 2017 12:00
  • Iau 21 Rhag 2017 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad