Eithafiaeth a Therfysgaeth
John Roberts yn trafod eithafiaeth ac ethol Esgob Llandaf, ac yn cofio David Ollerton. John Roberts discusses extremism, plus the search for a new Bishop of Llandaff.
Yn yr wythnos welodd farw Martin McGuinness ac ymosodiad yn Llundain sy'n cael ei ddisgrifio fel un terfysgol. mae John Roberts yn holi Matthew Rees am yr hyn sy'n gwneud i bobl weithredu'n derfysgol yn enw gwleidyddiaeth neu ffydd. Sut y dylem ni ymateb i weithredoedd o'r fath, a beth yw rôl maddeuant yn hyn?
Pam fod y DEC yn apelio am arian ar gyfer Dwyrain Affrica? Richard Powell o elusen Achub y Plant sy'n esbonio, ac yn sôn am y cymorth sydd ei angen.
Wedi rhagor o drafod yn y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol am broses ethol esgob newydd i Landaf, mae Deon Llanelwy Nigel Williams yn ymateb ar ran yr Eglwys yng Nghymru.
Glythineb sydd dan sylw yn y diweddaraf o'n heitemau am y Saith Bechod Marwol. Mae Bethan Davies, gweithiwr gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn rhoi cipolwg i ni ar waith y banc bwyd ym Mhort Talbot.
Ac wedi marwolaeth David Ollerton, cadeirydd Cymrugyfan sy'n rhwydwaith o blannu a chryfhau eglwysi, mae Meirion Morris yn cofio ei fywyd a'i waith.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Clip
-
Banc Bwyd ym Mhort Talbot
Hyd: 01:11
Darllediad
- Sul 26 Maw 2017 08:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.