Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Rôl Carchardai - Cosbi neu Gynorthwyo?

John Roberts yn trafod rôl carchardai, ac yn gofyn a ydy balchder bob amser yn beth drwg. Discussions about the role of prisons, and whether or not pride is always a bad thing.

Cosbi neu gynorthwyo? Wrth i Garchar y Berwyn agor yn Wrecsam, mae John Roberts yn holi Tim Holmes o Brifysgol Bangor ynglŷn â rôl carchar. Ble mae'r ffin rhwng cosbi a chynorthwyo pobl i beidio ag aildroseddu?

Yng nghanol Pythefnos Masnach Deg, mae rhai o ddisgyblion Ysgol Gwynllyw - a oedd yn llwyddiannus yng Nghystadleuaeth Farddoniaeth Cymorth Cristnogol a Divine y llynedd - yn trafod beth mae masnach deg yn ei olygu iddyn nhw.

Fe ddylai cleifion sydd â salwch terfynol gael eu holi gan feddygon am eu ffydd, yn ôl NICE, er mwyn rhoi gwell gofal iddyn nhw. Mari Lloyd Williams, arbenigwr mewn gofal lliniarol, sy'n ymateb.

Mae Bwrw Golwg yn trafod y Saith Bechod Marwol yn ystod y Grawys, gan ddechrau gydag aelodau o'r chweched dosbarth yn Ysgol Plasmawr yn diffinio beth yw balchder. A ydy balchder bob amser yn beth drwg?

A chyn i gynhadledd ar efengylu gael ei chynnal yn Aberystwyth, mae'r trefnydd Stuart Bell yn esbonio pam ei fod yn awyddus i drafod y pwnc, a sut mae'n gobeithio annog y rhai sy'n mynychu.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 5 Maw 2017 08:00

Darllediad

  • Sul 5 Maw 2017 08:00

Podlediad