Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dyletswydd Foesol Llywodraethau

John Roberts a'i westeion yn trafod dyletswydd foesol llywodraethau. John Roberts and guests discuss governments' moral obligations.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi mai dim ond 350 o blant sy'n ffoaduriaid a fydd yn cael eu derbyn i Brydain dan gynllun Dubs. Yn America, wedyn, mae'r Arlywydd Trump yn gobeithio ailgyflwyno ei orchymyn gweithredol i wrthod mynediad, dros dro, i bobl o saith gwlad benodol. Y bargyfreithiwr Gwion Lewis sy'n ymuno â John Roberts i drafod yr ystyriaethau cyfreithiol a moesol.

A hithau'n Wythnos Genedlaethol Priodas, sut mai paratoi ar gyfer priodi? Mae Rhodri ab Owen yn priodi eleni, ac fel gweinidog mae Carys Ann yn paratoi pobl ar gyfer priodas.

Mae Eglwys Ebeneser yng Nghaerdydd yn hysbysebu ei chynllun Blwyddyn Medrau, sef cyfle i brofi gwaith dyddiol eglwys a phrofi galwad i waith o'r fath. Gwion Dafydd oedd y cyntaf i ddilyn y cynllun, ac mae'n esbonio i John sut y cafodd fudd o'r profiad.

Ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe deithiodd Griffith John i Tsieina fel cenhadwr. Mae arddangosfa newydd yn Abertawe yn dweud ei hanes, a'r awdur John Aaron sy'n rhannu'r hanes hwnnw gyda Bwrw Golwg.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 12 Chwef 2017 08:00

Darllediad

  • Sul 12 Chwef 2017 08:00

Podlediad