Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Elystan Morgan

Sgwrs gyda'r Arglwydd Elystan-Morgan am faterion gwleidyddol y gorffennol a'r presennol. Lord Elystan-Morgan joins John Walter to discuss political matters, past and present.

Trafodaeth wleidyddol gyda'r Arglwydd Elystan-Morgan, cyn-aelod o Blaid Cymru a ddaeth yn Aelod Seneddol yn 1966 ar ôl ymuno â'r Blaid Lafur. Wrth sgwrsio â John Walter, mae'n sôn am rwystredigaethau'r cyfnod hwnnw gyda Phlaid Cymru, oherwydd y cecru a'r cynllwynio'n erbyn yr arweinydd Gwynfor Evans.

Mae hefyd yn trafod pwysigrwydd Swyddfa Cymru ym mywyd cyhoeddus y wlad dros yr hanner canrif diwethaf, cyn mynd ymlaen i grybwyll ei waith craffu presennol ar gefndir cyfansoddiadol Mesur Cymru.

Cawn ei farn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a dylanwad y corff hwnnw ar fywyd gwleidyddol y wlad.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 28 Meh 2017 12:00

Darllediadau

  • Mer 4 Ion 2017 12:00
  • Mer 28 Meh 2017 12:00

Podlediad John Walter Jones

John Walter Jones yn holi'r cwestiynau mawr am Gymru, y Cymry a'r byd Cymreig.

Podlediad