Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Huw Ifan, Rhaglen 1

Sgwrs gyda Huw Ifan o Fanc Cenedlaethol Qatar. Gari chats to Huw Ifan of Qatar National Bank.

Yn y rhaglen hon, mae Gari'n mynd â ni i un o wledydd cyfoethoca'r byd ar gyfer sgwrs gyda Huw Ifan sy'n gyfrifol am un o adrannau allweddol Banc Cenedlaethol Qatar.

Yn wreiddiol o Aberystwyth, fe ddechreuodd gyrfa Huw yn Llundain wedi blynyddoedd yn Ysgol Penweddig a Phrifysgol Caerdydd. Mae'n sôn wrth Gari am oriau echrydus ei swydd gyda J.P. Morgan, yna cyfnod hapusach gyda Barclays cyn symud i Bahrain. Roedd o yno pan ddigwyddodd y Gwanwyn Arabaidd, ac wrth siarad â Gari mae'n rhannu'r profiad o nwy dagrau'n cyrraedd gardd gefn ei gartref wrth i'w blant chwarae. Fe adawodd ei blant a'i wraig am ychydig wythnosau, felly roedd yn gyfuniad o gyfnod pryderus ond diddorol hefyd.

Erbyn hyn, mae'r teulu'n byw yn Doha. Tŷ bychan sydd ganddyn nhw, yn ôl Huw, ond dydyn nhw ddim yn crafu byw. Mae'r ffaith fod ganddo Porsche yn arwydd clir o hynny! Mae pencadlys QNB, ar y llaw arall, yn adeilad gwydr crand. Ac wrth i Huw weithio, mae'r plant yn cael addysg tebyg iawn i'r hyn sy'n cael ei gynnig yng Nghymru. Mae 'na un gwahaniaeth amlwg, fodd bynnag, sef y Gymraeg. Maen nhw'n deall rhywfaint, diolch i'w tad, ond dydyn nhw ddim yn hyderus yn siarad yr iaith.

Mae ail ran y sgwrs yn y rhaglen nesaf.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 12 Rhag 2016 12:00

Darllediad

  • Llun 12 Rhag 2016 12:00

Podlediad Rhaglen Gari Wyn

Gari Wyn a'i olwg unigryw ar fyd busnes, mentergarwch a Chymreictod.

Podlediad