Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ben Woodburn

Dylan Jones a'r criw yn trafod Ben Woodburn yn dod yn sgoriwr ieuangaf Lerpwl. Dylan Jones and guests discuss Ben Woodburn becoming the youngest goal-scorer in Liverpool's history.

Yn 17 oed, Ben Woodburn ydi'r sgoriwr ieuangaf yn hanes Clwb Pêl-droed Lerpwl. Dim ond 17 oedd Michael Owen hefyd pan sgoriodd yntau yn 1997, ond roedd Owen 98 diwrnod yn hŷn na Woodburn. Beth nesaf i'r pêl-droediwr ifanc yma sydd hefyd yn rhan o dîm Dan-19 Cymru? Mark Davies, y newyddiadurwr chwaraeon a chefnogwr Lerpwl, sy'n ymuno â Dylan Jones a'r criw i drafod.

A hithau'n Rownd 3 Cwpan Cymru, mae Phil Jones ac Emlyn Lewis yn edrych ymlaen at y gêm rhwng Porthmadog a Met Caerdydd.

Sgwrs hefyd gyda Chris Collins am ffilm ddogfen newydd am ffansîns pêl-droed, Whose Game Is It Anyway?

Gary Pritchard a Meilir Owen sydd ar y panel.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sad 3 Rhag 2016 08:30

Darllediad

  • Sad 3 Rhag 2016 08:30

Podlediad