Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Siantiau Cymru a Len Allchurch

Trafodaeth ar bêl-droed yn cynnwys stori bachgen 4 oed o'r Ceinewydd sydd wedi dysgu siantiau Cymru. Dylan Jones chats to a 4-year-old from New Quay about learning Wales chants.

Sylw i bob math o bethau'n ymwneud â phêl-droed, gan gynnwys stori bachgen 4 oed o'r Ceinewydd sydd wedi dysgu siantiau Cymru. Mae Josh Jones a'i dad Steffan yn ymuno â Dylan Jones a'r criw.

Yr Athro Geraint Jenkins sy'n cofio Len Allchurch ar ôl iddo farw'n 83 oed. Enillodd yr asgellwr 11 cap dros Gymru, a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd 1958.

Mae Catrin Heledd yn cymryd golwg ar rai o'r gwaharddiadau rhyfedd mae rheolwyr wedi'u cyflwyno ar hyd y blynyddoedd, a sgwrs hefyd gydag Owain Williams sydd newydd gael ei benodi'n Gyfarwyddwr Hyfforddi Academi Clwb Pêl-droed Y Bala.

Owain Tudur Jones ac Ian Gill sydd ar y panel.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sad 19 Tach 2016 08:30

Darllediad

  • Sad 19 Tach 2016 08:30

Podlediad