Difa Moch Daear?
Faint o groeso sydd i ddogfen ymgynghori newydd Llywodraeth Cymru ar reoli'r diciâu mewn gwartheg? Reaction to the Welsh government's new consultation document on eradicating TB.
Ychydig wythnosau wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi dogfen ymgynghorol newydd, dyma olwg ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn difa moch daear i geisio rheoli'r diciâu mewn gwartheg.
Mae un o gyn-lywyddion Cymdeithas Filfeddygol y BVA yng Nghymru yn siomedig nad ydi'r hawl i ddal a saethu moch daear yn rhan o'r ddogfen, er bod Peter Harlech Jones yn tanlinellu fod angen nifer o bolisïau amrywiol i fynd i'r afael â'r clwy.
Tebyg ydi barn teulu Penlan ger Maenclochog yn Sir Benfro, sydd wedi colli bron i hanner cant o wartheg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd y diciâu.
Ond mae safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, yn wahanol. Dydi hi ddim wedi'i darbwyllo mai dilyn yr un polisi â Lloegr ydi'r ffordd ymlaen, sef rhoi trwyddedau i ffermwyr saethu moch daear mewn ardaloedd penodol. Yn lle hynny, mae'n argymell rhannu Cymru'n dri rhanbarth yn dibynnu ar ddifrifoldeb y diciâu, a chyflwyno polisïau gwahanol yn y tair ardal.
Yn ôl Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru, does dim tystiolaeth p'un bynnag mai moch daear sydd ar fai am y cynnydd yn nifer y gwartheg sy'n diodde'r diciâu.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Iau 10 Tach 2016 12:30Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Sul 13 Tach 2016 16:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.