Bob Tai'r Felin
LlÅ·r Gwyn Lewis yn sgwrsio gyda phobl am y canwr gwerin a'r baledwr, Bob Tai'r Felin. Memories of Bob 'Tai'r Felin' Roberts, a miller who became a singing sensation.
Melinwr ac amaethwr a dreuliodd ei oes ar aelwyd Tai'r Felin yng Nghwm Tir Mynach ger Y Bala oedd Bob Roberts, ond daeth yn ganwr a baledwr enwog gydag apêl tebyg i ganwr pop diolch i gyfres radio Noson Lawen.
Llais pellennig ar hen record yn canu'n llawn hwyl ac arddeliad oedd unig argraff Llŷr Gwyn Lewis ohono cyn iddo ddechrau sgwrsio â rhai o'r bobl a gafodd y fraint o'i nabod.
Mae Dafydd Iwan yn sôn amdano'n creu argraff arno pan oedd ond yn blentyn bach, a'r cyffro yr oedd o'n ei deimlo wrth i Bob Roberts ddod i Frynaman i berfformio.
Mae Carys Jones o Roslan ger Cricieth yn medru rhannu atgofion personol ac amhrisiadwy iawn ohono fel taid. Er ei bod hi'n ifanc iawn pan fu farw yn 1951, mae'n ei gofio'n ei gwarchod ac yn canu wrth wneud.
Un arall sy'n dwyn i gof yng nghwmni Llŷr ydi Cledwyn Jones o Driawd y Coleg. Mae yntau hefyd yn sôn am garisma Bob Tai'r Felin, a'r ffaith ei fod yn denu merched fel gwenyn i bot jam!
Cawn flas ar ei ddireidi, cynhesrwydd a dawn, a syniad da o'i apêl arbennig ledled Cymru'n ystod ail hanner y 1940au.
Darllediad diwethaf
Clip
-
Cledwyn Jones yn trafod Bob Tai'r Felin
Hyd: 09:41
Darllediadau
- Gwen 28 Hyd 2016 12:30Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Gŵyl San Steffan 2016 18:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Iau 5 Ebr 2018 12:30Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2