Diogelwch Seiclo
Ar ôl cynnydd yn nifer y damweiniau difrifol yn ymwneud â seiclo, sut mae osgoi rhagor? Manylu investigates cycling safety in Wales.
Ar ôl cynnydd o 50% dros bum mlynedd yn nifer y damweiniau difrifol yn ymwneud â beicwyr yng Nghymru, mae galwadau wedi bod am godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch a rhagor o wariant gan Lywodraeth Cymru i wella rhwydwaith beicio'r wlad. Ond ai rhagor o feicwyr ar y ffyrdd neu ddiffyg gofal sy'n gyfrifol am y cynnydd hwn?
Mae elusen Sustrans yn dweud bod cynnydd enfawr yn nifer y beicwyr ar ein ffyrdd yn golygu bod diffygion yn y cyfleusterau ar eu cyfer yn dod yn fwyfwy amlwg.
Mae 107 o bobl y flwyddyn wedi cael damwain feic ddifrifol yng Nghymru dros y pum mlynedd ddiwethaf o gymharu â 70 yn y pum mlynedd flaenorol. Oherwydd hynny, mae rhai am weld newid agwedd gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Yng Nghaergrawnt, er enghraifft, y nod ydi helpu seiclwyr a lleihau'r traffig ar yr un pryd. Mae bron i 33% o boblogaeth Caergrawnt yn reidio eu beic i'r gwaith. Dim ond 3% sy'n gwneud yng Nghaerdydd.
Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn gwario £4 y pen ar hyrwyddo a hwyluso beicio a cherdded, ond mae gwariant yn nes at £20 y pen mewn dinasoedd Ewropeaidd fel Amsterdam a Copenhagen.
Er hynny, mae Cymru ar flaen y gad mewn un ffordd wedi i ddeddf sy'n arloesol i wledydd Prydain - y Ddeddf Teithio Llesol - gael ei sefydlu yma dair blynedd yn ôl. Bwriad y ddeddf, yn ôl Llywodraeth Cymru, ydi gwneud cerdded a seiclo'n weithgareddau naturiol bob dydd yng Nghymru. Mae £11 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer cynlluniau lleol eleni, a thros £1.5 miliwn ar gyfer prosiectau ar briffyrdd.
Cyflwynydd: Bryn Jones.
Darllediad diwethaf
Clip
Darllediadau
- Iau 27 Hyd 2016 12:30Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Sul 30 Hyd 2016 16:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.