Main content

Aber Mawddach

Iolo Williams yn ardal Aber Mawddach gyda Rhys Gwynn o Barc Cenedlaethol Eryri a Kelvin Jones o'r BTO. Iolo Williams and guests discuss the Mawddach Estuary and its wildlife.

Ychydig fisoedd ar Γ΄l i Iolo Williams weld olion rhai o'r safleoedd diwydiannol a oedd unwaith yn fwrlwm o amgylch glannau uchaf Afon Mawddach, mae'n dychwelyd yno i edrych ar weddill yr afon yng nghwmni Rhys Gwynn o Barc Cenedlaethol Eryri eto.

Yn y rhaglen hon hefyd, mae Kelvin Jones yn ymuno ag aelodau eraill o staff Ymddiriedolaeth Adarydda'r BTO i fodrwyo cywion gwibedog brith, ac yn trafod cyfraniad gwerthfawr gwirfoddolwyr ac amaturiaid i wyddoniaeth adareg a chadwraeth.

Ar gael nawr

1 awr

Darllediad diwethaf

Maw 25 Hyd 2016 12:00

Darllediadau

  • Sul 23 Hyd 2016 19:05
  • Maw 25 Hyd 2016 12:00