Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Aberfan, Cynnal, Penwythnos y Gannwyll a Chyfathrebu

Materion moesol a chrefyddol yn cynnwys cofio trychineb Aberfan a Phenwythnos y Gannwyll. Ethical and religious issues, including remembering Aberfan and how churches communicate.

John Roberts a'i westeion yn cofio trychineb Aberfan.

Mae Alun Williams o Ysgol Gymraeg Rhyd-Y-Grug yn sôn sut mae'r disgyblion yno wedi nodi'r hanner canrif, ac Elfed ap Nefydd Roberts yn trafod sut mae trychinebau'n cael eu cofio yn gyffredinol.

Ychydig ddyddiau cyn cynhadledd Cynnal sy'n edrych ar ochr ddu yr enaid a'r awydd sydd ynddom i ddianc rhag ein hunain, mae Wynford Ellis Owen yn esbonio pam dewis y pynciau yma ar gyfer y gynhadledd.

Mae'n Benwythnos y Gannwyll i dynnu sylw at Lyfrau Llafar Cymru, ac mae John yn cael cwmni Rhian Evans i drafod pwysigrwydd cynnal y gwasanaeth.

Hefyd, sut mae eglwysi'n cyfathrebu eu negeseuon? Mae nifer o eglwysi, gan gynnwys yr Eglwys yng Nghymru, wedi anfon datganiad i'r wasg am yr ymladd yn Aleppo yn Syria. Ond ai dyma'r modd i leisio barn? Gethin Russell Jones sy'n ymuno â John i drafod.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 23 Hyd 2016 08:00

Darllediad

  • Sul 23 Hyd 2016 08:00

Podlediad