
Cau banciau - pa gost?
Wrth i fanciau gau ar draws Cymru, mae'r rhaglen hon yn gofyn a oes modd atal y llif. An investigation into the impact of bank closures on local communities.
Mae trigolion pentrefi a threfi ar draws Cymru’n cwyno fod banciau’n diflannu oddi ar y stryd fawr.
Mae Manylu wedi darganfod y bydd bron i 130 o ganghennau yng Nghymru wedi cau dros gyfnod o bum mlynedd hyd at ddiwedd Ebrill 2016, ac mae HSBC wedi dweud wrth y rhaglen fod y fwyell wedi disgyn ar bron i 40 y cant o’u canghennau nhw ers 2011.
Yn ôl y prif fanciau, llai o ddefnydd o’u cyfleusterau a chynnydd sylweddol yn nifer y cwsmeriaid sy’n bancio arlein sy’n gyfrifol am gau’r drysau.
Mae Ioan Wyn Evans yn clywed gan bobl sy’n byw mewn cymunedau sydd wedi gweld banciau’n cau, ac yn gofyn sut mae ceisio atal y llif.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Iau 3 Maw 2016 12:30Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.