Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Teyrnged Gwenno Dafydd i'r gantores eiconig Edith Piaf ar achlysur canmlwyddiant ei geni. Gwenno Dafydd pays tribute to Edith Piaf on the centenary of her birth.

I nodi canmlwyddiant Edith Piaf, dyma deyrnged Gwenno Dafydd i’r gantores o Ffrainc.
Piaf oedd un o berfformwyr mwyaf poblogaidd Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae ei chyngherddau ar gyfer milwyr Yr Almaen yn ddadleuol, er iddi ddweud yn ddiweddarach ei bod yn rhan o’r Gwrthsafiad Ffrengig.
Wedi i’r rhyfel ddod i ben, fe ledaenodd ei henwogrwydd yn gyflym. Teithiodd i Ewrop, De America a’r Unol Daleithiau, a pharhaodd i ganu hyd nes blynyddoedd olaf ei bywyd.
Bu farw o ganser yn ei fila ar y Rifiera Ffrengig ar Hydref 10, 1963. Roedd yn 47 oed.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 20 Rhag 2015 13:00

Darllediadau

  • Maw 15 Rhag 2015 12:00
  • Sul 20 Rhag 2015 13:00