Llundain
Llundain ydi'r thema wrth i John Hardy fynd i grombil archif Radio Cymru unwaith eto. Mae'r ddinas wedi bod yn gartref i nifer o Gymry, gan gynnwys Dai Jones a Caradog Prichard.
Mae Llundain wedi bod yn gartref i nifer o Gymry, felly mae archif Radio Cymru'n llawn pytiau difyr yn ymwneud â'r ddinas. Oeddech chi'n gwybod, er enghraifft, mai yno y cafodd Dai Jones ei eni a'i fagu hyd nes ei fod yn bedair oed? Mae'r rhaglen hon yn cynnwys Dai yn trafod hynny gyda Beti George yn 1989. Mae'r pytiau eraill yn cynnwys y swyddog carchar Llew Jones yn sôn am gadw golwg ar Ronnie a Reggie Kray, a Megan Lloyd George yn cofio ei dyddiau yn Downing Street. John Hardy sy'n cyflwyno.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Daniel Lloyd a Mr Pinc
Goleuadau Llundain
-
The London Welsh Male Voice Choir
Yfory
-
Mary Poppins
Supercalifragilisticexpialidocius
-
Ralph McTell
The Streets of London
-
Warren Zevon
Werewolves of London
-
The Clash
London Calling
-
London Boys
London Nights
Darllediadau
- Sad 22 Awst 2015 09:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Mer 26 Awst 2015 18:15Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru