Main content

09/11/2014 - Eirwen Taylor

Yn wreiddiol o Gricieth, mae wedi byw yn Awstralia ers 35 o flynyddoedd.

Yn wreiddiol o Gricieth, mae wedi byw yn Awstralia ers 35 o flynyddoedd. Mae Eirwen yn cyflwyno unig raglen radio Gymraeg Awstralia, hynny ar orsaf gymunedol leol, Highland FM 107.1, sydd yn cael arian er mwyn darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol. Mae cyflwyno’r rhaglen wythnosol bob prynhawn Mercher yn ffordd wych i Eirwen gadw mewn cysylltiad â diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru, meddai - mae’n dilyn gwefannau newyddion Cymru yn ofalus, ond yn cyfaddef ei bod wedi drysu braidd gyda phwy yw pwy yn wleidyddol yma yng Nghymru bellach! Mae’n dweud bod y cyflwyno radio wedi rhoi cyfle iddi ddysgu sgiliau newydd a’i chadw yn brysur.

44 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 13 Tach 2014 18:16

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Katherine Jenkins

    CYMRU FACH

  • Rhys Meirion

    ANFONAF ANGEL

  • COR MEIBION Y BRYTHONIAID

    HAND ME DOWN MY SILVER TRUMPET

  • Dafydd Iwan

    YMA O HYD

Darllediadau

  • Sul 9 Tach 2014 10:15
  • Iau 13 Tach 2014 18:16

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad