01/06/2014 - Yn Fyw o Gaeredin
Dewi Llwyd ar fore Sul, yn mynd drwy'r papurau, yn sgwrsio gyda'i westeion arbennig ac yn chwarae amrywiaeth o gerddoriaeth. Dewi Llwyd with the papers, chat and music.
Bore ma fe fydd Dewi yn cyflwyno ei raglen yn fyw o Gaeredin, yn ogystal a thrafod cynnwys y papurau yn yr Alban fe fydd yn cael barn amryw ar y refferendwm. Fe fydd yn cael clywed sut mae'r bleidlais wedi rhannu rhai cymunedau.
Bydd Dewi yn sgwrsio gyda’r artist Corrie Chiswell, Albanes sydd bellach yn byw yng Nghymru ar drothwy arddangosfa newydd o’i gwaith.
Yn dilyn wythnos wael iawn i dim Hibs o’r brifddinas fe fydd un o chwaraewyr y tim peldroed - Owain Tudur Jones yn son am fywyd a gweithio yn yr Alban.
Yn ogystal a sgwrsio gydag amryw o Gymry eraill sydd wedi ymgartrefu yn yr Alban fe fydd Dewi yn cael ei wers bagbib gynta erioed!
Darllediad diwethaf
Clipiau
-
Corrie Chiswell
Hyd: 08:57
-
John Jenkins
Hyd: 08:47
-
Lois a Keith Bowen
Hyd: 09:39
Darllediad
- Sul 1 Meh 2014 08:31Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Podlediad
-
Dewi Llwyd ar Fore Sul
Adolygiad o'r papurau Sul, gwestai pen-blwydd a cherddoriaeth hamddenol.