Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

24.04.13

Golwg ar yr etholiadau i ddewis cyngor newydd i Ynys Môn. Anglesey voters to choose a new council for Anglesey.

Dydd Iau nesa, mi fydd pobl Ynys Môn yn ethol cynghorwyr sir – a hynny flwyddyn ar ôl i bawb arall yng Nghymru wneud hynny.

Ar ôl cyfnod hir o gecru cyhoeddus mi wnaeth Llywodraeth Cymru anfon comisiynwyr i’r ynys i ofalu am y cyngor. Mae’r trigolion rwan yn gobeithio y bydd yr etholiad yn agor pennod newydd, llai tymhestlog.

Mi oedd Cyngor Ynys Môn yn y pennawdau’n rheolaidd ac yn aml am y rhesymau anghywir.

Carl Seargant y Gweinidog oedd yn gyfrifol am Lywodraeth Leol ar y pryd benderfynodd yn y diwedd mai digon oedd digon – ac mi anfonodd y comisiynwyr i reoli pethe.

Yn Manylu yr wythnos hon, Aled Hughes sy’n edrych ymlaen at yr etholiad ac yn clywed barn rhai o drigolion yr ynys gan ganolbwyntio’n benodol ar ward Twrcelyn yng ngogledd yr ynys lle mae na 11 o ymgeiswyr yn cystadlu am lefydd ar y cyngor newydd.

26 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 24 Ebr 2013 14:04

Darllediad

  • Mer 24 Ebr 2013 14:04

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad