ΒιΆΉΤΌΕΔ Wales Education: helping children learn from home
15 January 2021
It is a difficult time for pupils, parents and teachers at the moment. ΒιΆΉΤΌΕΔ Wales is delighted to be able to support learners throughout Wales once again.
Nia M Davies, Head of Education productions in ΒιΆΉΤΌΕΔ Wales explains:
“As schools close again, we want to help parents support and continue their children's education. The ΒιΆΉΤΌΕΔ offers a wealth of fun, engaging and educational content for children from primary and secondary school age through to post-16 education. ”
“This time, there will be additional provision for pupils learning through English and Welsh on television on ΒιΆΉΤΌΕΔ2 and Welsh language provision on S4C. Parents can already find tips on how to keep their children occupied and learning during this time, as well as a list of all of the content available to Welsh schoolchildren at every level.”
Broadcast schedules are available here
Nia says:
“In Wales, we also recognise the challenge that non-Welsh speaking parents have in supporting the linguistic development of their children. It is hoped that our new partnership with S4C and the daily television offerings will help support this learning while the schools are closed.”
“The education partnership with S4C means that we are able to offer Welsh language programmes to help learners that are either unable to use our content online or that feel that they want to learn in a different way. My hope is that the daily programmes will also support children attending Welsh medium education where their parents or guardians are non-Welsh speaking. As with any language learning, listening to a spoken language is vital”.
Articles are also available that aim to offer immediate help and guidance to parents.
There's an invaluable guide to keeping your kids busy - and learning at home. Featuring five things to focus on, the guide links to specially created resources on the ΒιΆΉΤΌΕΔ Bitesize website.
Other articles offer a useful guide to ΒιΆΉΤΌΕΔ Bitesize content that supports the curriculum, outlining what is available and how best to use it.
The articles available here can be read:
- Five ways to keep your children occupied (and learning!) at home
- ΒιΆΉΤΌΕΔ Bitesize – online resources for primary education pupils
- ΒιΆΉΤΌΕΔ Bitesize – online resources for secondary education
During the second phase of school closures, the team will publish educational content specifically designed for pupils in Wales, as well as guidance for parents to help navigate them through the wealth of resources available from ΒιΆΉΤΌΕΔ Bitesize for Wales-specific content.
Adran Addysg ΒιΆΉΤΌΕΔ Cymru: helpu plant i ddysgu o gartref
Mae’n gyfnod anodd i ddisgyblion, rhieni ac athrawon ar hyn o bryd ac mae ΒιΆΉΤΌΕΔ Cymru yn hynod o falch o allu cefnogi dysgwyr drwy Gymru unwaith eto.
Eglurodd Nia M Davies, Pennaeth cynyrchiadau Addysg ΒιΆΉΤΌΕΔ Cymru:
“Wrth i ysgolion gau unwaith eto, ry’n ni eisiau helpu rhieni i gefnogi ac i barhau ag addysg eu plant. Mae’r ΒιΆΉΤΌΕΔ yn cynnig cyfoeth o gynnwys hwyliog, apelgar ac addysgol i blant o oed cynradd ac uwchradd hyd at addysg ôl-16.”
“ Y tro hwn, bydd arlwy ychwanegol ar gyfer disgyblion sy’n dysgu drwy’r Saesneg a’r Gymraeg ar deledu ar ΒιΆΉΤΌΕΔ2 a darpariaeth Gymraeg ar S4C. ”
Gall rhieni eisoes ddod o hyd i awgrymiadau ar sut i gadw eu plant yn brysur ac i ddysgu yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â rhestr o'r holl gynnwys sydd ar gael i blant ysgol Cymru ar bob lefel.
Mae amserlenni darlledu ar gael yma
Dywedodd Nia:
“Yng Nghymru, ry’n ni hefyd yn cydnabod yr her sydd gan rieni di-Gymraeg mewn cefnogi datblygiad ieithyddol eu plant. Y gobaith yw y bydd ein partneriaeth newydd gydag S4C a’r arlwy dyddiol hwnnw ar deledu yn helpu i gefnogi’r dysgu yma tra bo’r ysgolion ar gau.”
“Mae’r bartneriaeth addysg gyda S4C yn golygu ein bod yn gallu cynnig rhaglenni Cymraeg i helpu dysgwyr sydd naill ai’n methu â defnyddio ein cynnwys ar-lein neu sy’n teimlo eu bod eisiau dysgu mewn ffordd wahanol. Fy ngobaith yw y bydd y rhaglenni dyddiol hefyd yn cefnogi plant sy'n mynychu addysg gyfrwng Cymraeg lle mae eu rhieni neu eu gwarcheidwaid yn ddi-Gymraeg. Fel gyda dysgu unrhyw iaith, mae gwrando ar iaith lafar yn hanfodol.”
Mae erthyglau hefyd ar gael sy’n anelu at gynnig cymorth ac arweiniad i rieni ar unwaith.
Mae yna ganllaw amhrisiadwy ar gyfer cadw'ch plant yn brysur - a dysgu gartref. Gan gynnwys pump o bethau i ganolbwyntio arnyn nhw, mae'r canllaw yn cysylltu ag adnoddau sydd wedi’u creu’n arbennig ar wefan ΒιΆΉΤΌΕΔ Bitesize.
Mae erthyglau eraill yn cynnig canllaw defnyddiol i gynnwys ΒιΆΉΤΌΕΔ Bitesize sy’n cefnogi’r cwricwlwm, gan amlinellu beth sydd ar gael a’r ffordd orau i'w ddefnyddio.
Gellir darllen yr erthyglau sydd ar gael fan hyn:
- Pum ffordd o gadw eich plant yn brysur (a dysgu rywbeth iddyn nhw!) gartref
- ΒιΆΉΤΌΕΔ Bitesize – adnoddau ar-lein ar gyfer disgyblion addysg gynradd
- ΒιΆΉΤΌΕΔ Bitesize – adnoddau ar-lein ar gyfer addysg uwchradd
Yn ystod yr ail gyfnod o gau ysgolion, bydd y tîm yn cyhoeddi cynnwys addysgol sydd wedi'i gynllunio’n arbennig i ddisgyblion yng Nghymru, yn ogystal ag arweiniad i rieni i'w helpu i lywio eu ffordd drwy'r cyfoeth o adnoddau sydd ar gael gan ΒιΆΉΤΌΕΔ Bitesize ar gyfer cynnwys sy’n benodol i Gymru.