Cyfeillion y Βι¶ΉΤΌΕΔ NOW
Cefnogi gwaith Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Βι¶ΉΤΌΕΔ er mwyn galluogi mwy o bobl i gymryd rhan yn y Gerddorfa Symffoni Genedlaethol.
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Βι¶ΉΤΌΕΔ (Βι¶ΉΤΌΕΔ NOW), yn chwarae rhan hollbwysig wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o dalentau cerddorol, a gwneud yn siΕµr bod mwy o bobl yn cael cyfle i ymwneud â cherddoriaeth gerddorfaol ym mhob rhan o’r wlad, gan gynnwys rhannau ble mae ffactorau cymdeithasol, economegol, neu ddaearyddol yn cyfyngu ar allu pobl i gael cyfleoedd cerddorol.
Mae Βι¶ΉΤΌΕΔ NOW yn rhoi’r cyfle i bobl wrando neu gymryd rhan mewn perfformiadau cerddorfaol byw, ac i nifer dyma'r tro cyntaf iddynt gael profiad o'r fath. Mae’r perfformiadau hyn yn digwydd mewn ysgolion, lleoliadau cymunedol, neu ardaloedd ble nad oes cerddoriaeth gerddorfaol i’w chlywed yn aml. Drwy ddod â cherddoriaeth i'r ardaloedd difreintiedig hyn, mae Βι¶ΉΤΌΕΔ NOW yn cyfoethogi’r tirwedd diwylliannol, yn ogystal â meithrin gwerthfawrogiad o'r celfyddydau ymhlith pobl waeth be fo'u hil, rhywedd, rhywioldeb a/neu anabledd.
Mae Cyfeillion y Gerddorfa Genedlaethol Gymreig yn elusen gofrestredig a ffurfiwyd yn 1997. (Rhif yr elusen: 1062645) Mae’r elusen yn cefnogi gwaith parhaus Βι¶ΉΤΌΕΔ NOW ym maes addysg ac mewn cymunedau. Mae gan Gyfeillion y Gerddorfa Genedlaethol Gymreig bedwar Ymddiriedolwr ar y bwrdd, ac maent yn codi ymwybyddiaeth yn ogystal o waith Βι¶ΉΤΌΕΔ NOW, yn ogystal â chodi arian er mwyn eu galluogi i wneud y gwaith hwnnw.
Mae cyllid yr elusen yn dod o grantiau, cyfraniadau, rhoddion mawr, a rhoddion o etifeddiaethau. Am ragor o wybodaeth, neu i wneud cyfraniad, cysylltwch â friendsofΒι¶ΉΤΌΕΔNOW@bbc.co.uk
Rhif cofrestru’r elusen 1062645.
Cyfeillion y Βι¶ΉΤΌΕΔ NOW Bwrdd
Gareth Churchill
Iwan Teifion Davies
Osian Gwynn Dutton
John Hardy
Deborah Helen Keyser