Mannau dirgel Betws y Coed
Cylchdaith aiff a chi ar hyd ffordd Rufeinig i ymweld â man cyfansoddi un o'n emyn donau enwocaf, drwy bentref adfeiliedig, at lyn lle y cewch chi olygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri.
- Hyd y daith: tua 6 milltir
Rhannau gweddol serth ar y dechrau a'r diwedd, ond yn bennaf cerdded mwy gwastad ar hyd ffyrdd coedwig a llwybrau all fod yn fwdlyd a chorsiog mewn mannau.
- Amser: 3 – 4 awr
- Anghenion pwysig
Esgidiau cerdded, dillad dal dŵr, bwyd a diod, Map AO OL17 Yr Wyddfa. - Parcio
Mae meysydd parcio talu ym Metws y Coed a digon o lefydd ochr stryd. Bydd angen cerdded i fyny drwy'r pentref, i gyfeiriad Capel Curig, i'r man cychwyn. - Man cychwyn – cyfeirnod grid 779,568 ym mhen gorllewinol Betws y Coed, wrth i’r A5 ddechrau dringo drwy’r coed am Y Rhaeadr Ewynnol - wrth geg y ffordd lle mae’r man cychwyn mae arwydd ‘Anaddas i fodur’
Rydych yn dechrau'ch taith yn y rhan o'r Betws a elwir yn Pentre Du. Mae'r enw’n ganlyniad i natur dywyll y graig a gloddid yn Chwarel Hafodlas gerllaw, a'r ffaith nad yw’n gweld yr haul rhwng Medi a Mawrth.
Ym mhen arall Betws y Coed yn ardal Pont Waterloo, sef Pentre Gwyn, mae'r haul i'w weld gydol y flwyddyn.
I Bentre Du yr adleolodd y rhan fwyaf o drigolion cymuned Rhiwddolion, y byddwch yn ymweld â hi ymhellach ymlaen, wrth i fywyd yno ddatblygu'n anghynaladwy ganol y ganrif ddiwethaf.
* Ewch i fyny'r ffordd heibio'r arwydd "Anaddas i fodur" (peidiwch a mynd i fyny'r allt i'r dde) ac ymlaen am y giât heibio Fferm Pentre Du ar y chwith - sylwch ar y camdreiglad ar yr arwydd! Rydych bellach yn cerdded ar ffordd Rufeinig Sarn Helen.
-> Y gred ydi ei fod wedi ei enwi ar ôl , gwraig , a'i adeiladu gan luoedd Agricola oddeutu 78 OC.
Roedd Sarn Helen yn rhedeg ar hyd ochr gorllewinol o gaer Canovium () yn y gogledd hyd gaer Maridunum () yn y de, gyda'r cymal yma’n cysylltu Caerhun â gwersyll Tomen y Mur ger Trawsfynydd.
* Cerddwch i fyny Sarn Helen at yr ail ffordd goedwig, y tu hwnt i'r ddwy giât fetel ar ben yr allt.
Trowch i'r dde ar hyd y ffordd am rhyw gan llath. Yn y coetir ar y chwith mae arwydd yn nodi enwau TÅ· Capel, TÅ· Coch a TÅ· Uchaf ar ddechrau llwybr drwy'r coed.
Dilynwch y llwybr hwn, ac fe ddewch yn y man at yr adeilad arferai wasanaethu fel capel ac ysgol ar gyfer cymuned Rhiwddolion (771,559).
-> Codwyd yr adeilad ym 1869, a'r Prifathro cyntaf oedd Griffith H. Jones (1849-1919), sef Gutyn Arfon, y cyfansoddwr emyn donau. Yma, yn yr adeilad hwn, y cyfansoddwyd y dôn "Llef", y’i cysylltir yn bennaf â'r geiriau:
'O! Iesu mawr, rho d'anian bur
I eiddil gwan mewn anial dir,
I'w nerthu drwy’r holl rwystrau sy
Ar ddyrys daith i'r Ganaan fry.'
Sefydlodd Gytun Arfon undeb gorawl ym Metws y Coed, arweiniodd seindorf pres y pentref, trefnodd sawl gŵyl gerddorol, a fo oedd yn gyfrifol am sefydlu eisteddfod flynyddol y Betws oroesodd hyd ddechrau'r Ail Ryfel Byd ym 1939.
Mae capel Rhiwddolion yn nodedig hefyd fel y capel cyntaf yn yr hen Sir Gaernarfon i ganiatáu i offeryn cerdd gael ei ddefnyddio o fewn ei furiau, sef harmoniwm gafodd ei gludo i fyny Sarn Helen gan geffyl a throl. Fe gaeodd y capel ym 1956 a bellach mae'n fwthyn gwyliau.
* Ewch yn eich blaen heibio'r capel, i'r dde heibio adfeilion TÅ· Isaf ac i fyny'r trac. Ar ben yr allt fe ddewch at fwthyn TÅ· Coch.
-> Y tu ôl i TÅ· Coch mae bwthyn gwyngalchog TÅ· Uchaf, sef y tÅ· olaf yng nghymuned Rhiwddolion i fod â thrigolion parhaol yn byw ynddo - fe adawodd y teulu olaf ym 1974. Bellach mae'r ddau fwthyn, fel y capel, yn fythynnod gwyliau sy'n eiddo i'r Landmark Trust.
* Wrth dalcen TÅ· Coch croeswch y bont garreg dros yr afon ac yna'r gamfa i'r cae. Ewch i fyny i'r chwith dros y bryncyn, cadwch i'r chwith heibio Bryn Derw ac i lawr at adfeilion nifer o dai. Dyma oedd canolbwynt cymuned Rhiwddolion.
-> Ar ei hanterth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg credir fod hyd at gant o drigolion yn byw yma, mewn tyddynnod gwasgaredig a thai oedd yn gartrefi i chwarelwyr a'u teuluoedd. Byddai rhai chwarelwyr yn gadael y pentref tua phump y bore i gerdded ar hyd Sarn Helen i lawr i orsaf drenau Pont y Pant, er mwyn bod yn eu gwaith yn y chwareli ym Mlaenau Ffestiniog erbyn saith y bore.
Roedd eraill yn gweithio yn y chwareli mwy lleol, e.e. Chwarel Rhiwddolion sy'n y goedwig y tu ôl i TÅ· Uchaf, Chwarel Hafodlas ar gyrion Pentre Du, a'r amryfal chwareli bychain ym Mhenmachno a Dolwyddelan.
Dechreuodd Rhiwddolion edwino yn y 1930'au law yn llaw â thranc y chwareli, yn arbennig felly chwareli mawr Blaenau Ffestiniog. Mudodd y trigolion i lawr i Betws y Coed a Llanrwst, a rhai ymhellach i lawr Dyffryn Conwy i'r tywydd a chyfleoedd gwaith gwell yn Llandudno a Bae Colwyn.
Wrth gerdded heibio'r tai sylwch bod un adeilad â set o risiau yn arwain ohono. Dyma lle'r oedd siop y pentref, fyddai, yn ogystal â gwerthu nwyddau a gludid i fyny Sarn Helen, yn gwerthu nwyddau a gynhyrchid ar y tyddynnod lleol.
* Ewch yn eich blaen heibio'r adfeilion ac fe ddewch unwaith eto at Sarn Helen. O droi i'r dde gallwch gerdded ymlaen i Bont y Pant, taith o tua awr, a dal y trên yn ôl i Betws y Coed. Fodd bynnag, trowch i’r chwith yma, ewch drwy'r giât, ac ar ben yr allt fe welwch fynedfa i gae ar y dde. Ewch dros y gamfa a dilynwch y trac garw i fyny at y goedwig. Ar ymyl y goedwig fe welwch gamfa arall - croeswch hwn i mewn i ran o Goedwig Gwydir.
-> Yn sgîl prinder pren a choed ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cyflwynwyd Deddf Coedwigaeth 1919 arweiniodd at sefydlu’r Comisiwn Coedwigaeth.
Plannwyd y goeden bîn gyntaf yng Nghoedwig Gwydir ym 1921 - cyn hynny tir amaethu agored oedd yma, yn cynnal tyddynnod amrywiol, ynghyd ag ambell gasgliad o goed collddail.
Heddiw prin iawn yw’r derw, ynn, bedw ac ati, ac fe welwch adfeilion nifer o dyddynnod yn y goedwig yn ystod eich taith.
Hyd yn gymharol ddiweddar roedd rhai o'r genhedlaeth hÅ·n ym Metws y Coed, arferai fyw yn Rhiwddolion, neu yn ddisgynyddion cyn drigolion, yn wrthwynebus i'r Comisiwn Coedwigaeth gan eu bod o'r farn bod elfen o ‘glirio tir’ wedi digwydd gan y llywodraeth yn Llundain (gan ei gymharu â'r clirio tiroedd yn Yr Alban yn y ddeunawfed ganrif).
Ym 1937 dynodwyd Coedwig Gwydir yn Barc Coedwig Cenedlaethol, a heddiw mae’r goedwig yn gorchuddio 14,900 erw dros 23 milltir sgwâr. Mae iddi bron i 150 milltir o ffyrdd coedwig a ddefnyddir gan loriau coed a cheir rali fel ei gilydd. Gan bod tyfiant y coed yn sylweddol, mae datgoedwigo yn gyffredin iawn, felly bydd angen ichi gymryd gofal weddill y daith.
* Dilynwch y llwybr dros garped o fwsog drwy'r goedwig, yna allan ohoni eto. Pasiwch adfail tyddyn ar y dde ac ymhen dim fe ddewch at ffordd goedwig. Trowch i'r chwith a dilyn y ffordd heibio i fferm Pant yr Hyddod sy’n y cae ar y chwith.
Ar ddiwedd y ffordd cewch olygfeydd da o Ddyffryn Conwy o'ch blaen. Trowch i’r dde yn y gyffordd. Cadwch i'r chwith yn y gyffordd ar waelod yr allt. Dilynwch y ffordd yma am tua hanner milltir hyd nes cyrraedd y maes parcio ar y dde ar gyfer Llyn Elsi.
-> Yn wreiddiol roedd dau lyn bach yma, Llyn Rhisgog a Llyn Enoc. Ym 1914, gyda chaniatâd yr Ail Arglwydd Ancaster, Aelod Seneddol Toriaidd Horncastle yn Swydd Lincoln a thirfeddiannwr mawr yn ardal Betws y Coed, adeiladwyd argae 20 troedfedd i greu un llyn mwy 30 erw o faint.
Gwnaed hyn er mwyn darparu dŵr yfed ar gyfer Betws y Coed - mae'r gwaith dŵr yn y pentref, lle mae'r bibell o'r llyn yn cyrraedd yr adnoddau puro, y tu cefn i'r feddygfa ym Mhentre Du.
* Wedi cerdded o'r maes parcio a chyrraedd yr argae mae dau ddewis gennych chi:
- Ewch i'r dde dros y bompren ac i fyny’r llwybr, ac mae modd ichi gerdded yr holl ffordd o gwmpas y llyn - mae’n gylchdaith braf ar lwybrau pwrpasol a ffyrdd y goedwig, ac o'i gerdded yn hamddenol fe ddylai gymryd tua awr.
- Ewch i'r chwith ac i fyny at y gofgolofn a'r fainc sy’n edrych dros y llyn. Yma rydych dros saith gant troedfedd uwchlaw lefel y môr, efo'r golygfeydd ar ddiwrnod clir yn odidog - mae’n lecyn perffaith ichi gael paned neu ginio.
I'r gorllewin fe welwch, o'r dde i'r chwith, gefnen Y Crimpiau a Chreigiau Gleision ger Capel Curig, ac yna copaon Pen Llithrig y Wrach a Pen yr Helgi Du, a'r Carneddau, Llewelyn a Dafydd y tu hwnt wedyn. I'r de-orllewin saif Moel Siabod, ac yna'n syth o'ch blaen y tu hwnt i ben pellaf Llyn Elsi gwelir Moel Penamnen sydd rhwng Dolwyddelan a Blaenau Ffestiniog, ac yna Ro Lwyd a'r Ro Wen uwchben Penmachno.
* Sefwch â'ch cefn at y llyn a'r gofgolofn o'ch blaen. Dilynwch y llwybr sy’n mynd i'r dde o'r gofgolofn. Arhoswch ar y llwybr hwn wrth iddo groesi dwy ffordd goedwig.
-> Peidiwch a chwilio am, a chael eich temtio i ddilyn y llwybr ar y map sy'n mynd heibio adfail Rhiw-gri (791,555) – mae coel lleol bod ysbryd Rhys ab Hugh, neu Rhys y Ceiliogod (gan ei fod yn trefnu gornestau ymladd ceiliogod yn y ddeunawfed ganrif), yn disgwyl amdanoch yno!
* Yn fuan ar ôl croesi'r ail ffordd goedwig fe ddewch at adfeilion Gartheryr (791,558)ar y chwith.
-> Y cofnod olaf o drigolion yma oedd gweithiwr efo'r Comisiwn Coedwigaeth a’i deulu ym 1926, ond wedi hynny aeth y tyddyn â'i ben iddo. Yn y ddeunawfed ganrif roedd Gartheryr yn adeilad nodedig yng nghymuned Betws y Coed.
Yma, ym 1749, o dan arweiniad Ann Jones, morwyn ar fferm Cwm Dreiniog rhwng Llyn Elsi a Phont y Pant, y dechreuodd criw bychan o Fethodistiaid Calfinaidd gwrdd yn wythnosol, cyn i'r niferoedd gynyddu’n gyflym i'r fath raddau fel bod angen symud i adeilad mwy oedd yn agosach at Betws y Coed, sef Trawsafon.
* Cariwch ymlaen i lawr y llwybr heibio Gartheryr, ond cymerwch ofal gan ei fod yn droellog a chymharol serth mewn mannau, hyd nes cyrraedd y ffordd goedwig. Trowch i'r chwith ac ewch i lawr yr allt. Tua gwaelod yr allt, yn y cae ar yr ochr dde, mae adfeilion Trawsafon.
-> Hwn oedd cartref y saer maen Thomas Thomas, ei wraig, a'u naw o blant, ac yma ym 1797 y sefydlwyd "gorsaf bregethu" yn enw'r Methodistiaid Calfinaidd.
Fel efo Gartheryr fe gynyddodd y niferoedd ymhellach, ac erbyn 1808 roedd angen adeilad mwy i gynnal y gwasanaethau. O ganlyniad adeiladwyd capel Bryn Mawr, sydd i'w weld heddiw ar ochr yr A5, ychydig i fyny’r ffordd o Bont y Pair, yng nghanol y pentref.
* Ymlaen a chi i waelod y ffordd goedwig ac fe ddewch yn ôl i Betws y Coed y tu cefn i Eglwys y Santes Fair.
-> Cynhaliwyd y gwasanaeth cyntaf yma ym 1837 yn yr adeilad a gynlluniwyd gan y penseiri Paley ac Austin o Gaerhirfryn.
Fe’i adeiladwyd ar gost o £5,000 gan y crefftwr lleol Owen Gethin Jones, adeiladodd orsaf reilffordd Betws y Coed hefyd. Y tu mewn i’r eglwys gwelir carreg las lleol, tywodfaen o Ancaster (Swydd Lincoln), tra bo’r fedyddfaen a rhannau o’r pulpud yn garreg dolennog ddu o Gernyw.
Wrth ichi ddod at ddiwedd eich taith gobeithio ichi fwynhau’r olwg amgen yma ar rhai o ragoriaethau Betws y Coed - rydych bellach yn haeddu paned a chacen yn un o gaffis y pentref!
** Taith Bryn Tomos ydy hon. Da ni'n argymell i chi ddefnyddio map OS o'r ardal i gyd fynd gyda'r daith.
** Tydi'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn cymryd dim cyfrifoldeb dros unrhyw anaf a all ddigwydd yn ystod eich taith. Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas bob tro a chofiwch edrych ar ragolygon y tywydd cyn mentro allan.