Â鶹ԼÅÄ

Cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y Â鶹ԼÅÄ a Gŵyl Llais yn uno ar gyfer cyngerdd Gala yn 2025

Mae’r cyngerdd Gala yn argoeli i fod yn ddathliad o lais ac opera sy’n cynnwys rhai o enwau mwyaf cerddoriaeth glasurol

Cyhoeddedig: 01:00 yh, 25 Gorffennaf 2024
Adolfo Corrado wears a black tuxedo and white shirt and bowtie, he is holding a trophy
Adolfo Corrado, winner of 2023 Â鶹ԼÅÄ Cardiff Singer of the World
Mae gan gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y Â鶹ԼÅÄ le pwysig yn y calendr cerddorol rhyngwladol yn ogystal ag yma yng Nghymru. Mae’r cyngerdd Gala hwn yn gyfle gwych i ddathlu rhai o’r lleisiau eithriadol a ddeilliodd o’r gystadleuaeth hon i’w mwynhau nid yn unig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ond gan gynulleidfaoedd ledled y DU.
— Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Â鶹ԼÅÄ Cymru

Bydd Cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y Â鶹ԼÅÄ yn llwyfannu cyngerdd gala i ddathlu’r gystadleuaeth rygwladol o fri ym mis Hydref 2025. Bydd cyn enillwyr a chystadleuwyr y gystadleuaeth adnabyddus yn dod ynghyd fel rhan o Å´yl Llais, Canolfan Mileniwm Cymru; gŵyl sy’n dathlu cerddoriaeth a chanu. Bydd y cyngerdd yn cael ei recordio i'w ddarlledu ar Â鶹ԼÅÄ Four a Â鶹ԼÅÄ Two Wales yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae’r cyngerdd Gala yn argoeli i fod yn ddathliad o lais ac opera sy’n cynnwys rhai o enwau mwyaf cerddoriaeth glasurol. Bydd yn cael ei lwyfannu fel rhan o Ŵyl Llais; Llais yw gŵyl gerddoriaeth ryngwladol Caerdydd, sy’n dod ag artistiaid a chynulleidfaoedd ynghyd ar gyfer cerddoriaeth fyw anhygoel, perfformiadau sy’n procio’r meddwl a sgyrsiau ysbrydoledig.

Bydd y cyngerdd yn digwydd yn lle cystadleuaeth Â鶹ԼÅÄ Canwr y Byd Caerdydd yn 2025. Bydd y gystadleuaeth yn dychwelyd yn 2027.

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Â鶹ԼÅÄ Cymru: “Mae gan gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y Â鶹ԼÅÄ le pwysig yn y calendr cerddorol rhyngwladol yn ogystal ag yma yng Nghymru. Mae’r cyngerdd Gala hwn yn gyfle gwych i ddathlu rhai o’r lleisiau eithriadol a ddeilliodd o’r gystadleuaeth hon i’w mwynhau nid yn unig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ond gan gynulleidfaoedd ledled y DU.

“Rwyf hefyd yn falch iawn o gael gweithio gyda thîm deinamig a chreadigol Gŵyl Llais ac edrychaf ymlaen at noson i’w chofio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fis Hydref nesaf.â€

NTW

Latest from the Media Centre

All news

Search by Tag:

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: