Rhaglen
- Lustspielouvertüre, K245, Op 38
- Violin Concerto
- Norma
- Symffoni Rhif 4, 'Eidalaidd'
Perfformwyr
- Nil VendittiArweinydd
- Geneva LewisArweinydd
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ a’r arweinydd Nil Venditti yn dychwelyd i Aberhonddu a Chasnewydd ym mis Medi eleni gyda rhaglen o waith gan Busoni, Bellini a Mendelssohn yn ogystal â gwaith rhapsodïaidd Grace Williams, Concerto i'r Ffidil, gyda’r hynod dalentog Geneva Lewis.
Fel teyrnged i operâu comig Mozart, mae’n bosib mai Agorawd Lustspiel Busoni yw ei waith mwyaf poblogaidd. Mae’r darn bach gwych hwn yn asio drama a melodïau toreithiog Mozart gydag offeryniaeth ramantaidd hwyliog. Wedi’i lleoli yng ngwlad Gâl yng nghyfnod y Rhufeiniaid, cafodd opera Bel Canto Bellini, Norma ei llwyfannu am y tro cyntaf yn La Scala Milan yn 1831, yr un flwyddyn ag yr oedd y Mendelssohn ifanc yn teithio drwy’r Eidal. Haul y Canoldir, ei gelf a’i bensaernïaeth, ei ddefosiwn crefyddol ac ehangder ei dirweddau oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei Symffoni Eidalaidd, sef yr holl ryfeddodau a welodd â’i lygaid ei hun yn ystod ei deithiau.