Rhaglen
- Overture 'Cyrano de Bergerac', Op 23
- Oboe Concerto in C major, K314
- Symffoni Rhif 2
Perfformwyr
- Antony Hermusconductor
- Steve Hudsonoboe
Cyfansoddwyr
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Mae Antony Hermus - yr arweinydd bywiog, carismatig ac egnïol o’r Iseldiroedd - yn ymuno â Â鶹ԼÅÄ NOW yng Nghaerdydd a’r Drenewydd fis Medi yma gyda rhaglen amrywiol o Wagenaar, Mozart a Sibelius.
Ysgrifennwyd un o ffefrynnau Hermus, sef portread cerddorol Johan Wagenaar - Cyrano de Bergerac - ym 1905 ac mae’n rhamantus iawn o ran arddull. Mae’r portread hwn o Bergerac yn dangos elfennau o arwriaeth, hiraeth cain a harmoni ryfeddol, wedi’u cyfuno â llawenydd, hiwmor a dychan. Mae’r portread hefyd yn dangos elfen o ysbryd uniongyrchol a di-ben-draw. Mae Steven Hudson, prif Obo Â鶹ԼÅÄ NOW, yn camu ymlaen i chwarae’r solo yng Nghoncerto i’r Obo Mozart. Yna, byddwn yn clywed Ail Symffoni Sibelius, sy’n symffoni poblogaidd ym mhedwar ban byd. Dyma’n wir feistr wrth ei waith.