Rhaglen
- Prélude à l’après-midi d’un faune
- Nocturnes
- Flute Concerto - Thaleia
- Psyché (orchestral version)Part 3
Perfformwyr
- Gergely MadarasArweinydd
- Noémi GyőriFfliwt
Cyfansoddwyr
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Yn Prélude à l’après-midi d’un faune gan Debussy – darn arloesol sy’n portreadu breuddwydion a chyfarfyddiadau ffawn mytholegol – mae amwysedd byrlymus a harmonïau tryloyw yn disgleirio yn y darn, gyda’i alawon sy’n dwyn arlliw o ysbrydoliaeth gan y Dwyrain, ei naws gynnil a’i brydferthwch pur. Yna, yn ei Nocturnes, a ysbrydolwyd gan set o baentiadau o’r un enw gan Whistler, rydym yn archwilio golau a chysgod. O’r awyr i’r môr, clywn alaw befriog, ysgafn ochr yn ochr ag egni rhythmig gwerinol, a chaneuon iasol y seireniaid ar y môr yn tarfu ar y dŵr chwyrlïog – edefyn disglair a ychwanegir at y tapestri sain sydd eisoes yn gelfydd.
Gan ddefnyddio’r ffliwt mewn arddull bersain ddi-ffrwyn, sy’n adlewyrchu l’après-midi gan Debussy, ysgrifennwyd Thaleia – concerto i’r ffliwt a gyfansoddwyd gan Christian Mason ar gyfer Noemi Gyori fel rhan o’i phrosiect ‘Contemplatation of the Nymph’, lle mae nodweddion Thaleia, afondduwies Etna, yn ganolog. Rydyn ni’n falch iawn bod Noemi yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ a’r arweinydd Gergely Madaras ar gyfer y perfformiad cyntaf erioed o’r gwaith yn y DU, cyn i Gorws Cenedlaethol Cymreig y Â鶹ԼÅÄ ymuno ar gyfer diweddglo’r cyngerdd cyfareddol hwn – Part III o’r gathl symffonig Psyché gan Franck, sydd wedi’i gosod i eiriau Sicard a Louis de Fourcaud a’i ysbrydoli gan Metamorphoses gan Apuleius.