Rhaglen
- Kol nidrei, Op. 47
- Never Give UpUK Premiere
- Protonic GamesUK Premiere
- Symffoni Rhif 7
Perfformwyr
- Nil VendittiArweinydd
- Camille ThomasSoddgrwth
Cyfansoddwyr
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Mae Kol Nidrei cyfareddol ac atgofus Bruch yn cael ei ysbrydoli gan alaw Iddewig draddodiadol. Er nad oedd yn Iddew ei hun, roedd gan Bruch gysylltiadau cryf â’r gymuned ac mae’n gwneud defnydd meistrolgar o’r unawd soddgrwth i ddarlunio’r cantor yn alaw Kol Nidrei, datganiad wedi’i adrodd yn Yom Kipper, ochr yn ochr â’r alawon Hebraeg ‘O Weep for Thers that wept on Babel’s Stream’. Mae concerto Fazil Say, Never Give Up, hefyd yn gwneud defnydd dyfeisgar o’r soddgrwth mewn ddatganiad gwleidyddol cryf am arswyd dychrynllyd ymosodiadau yn Ewrop a Thwrci, a’r angen am ryddid a heddwch. Mae nodau caled offerynnau taro wedi’u plethu â sgrechiadau’r chwythbrennau yn darlunio’r erchyllterau, cyn cloi’n fwy obeithiol gyda chân adar, tonnau a rhythmau traddodiadol Twrcaidd.
Wedi’i ysgogi gan y ffordd y mae Beethoven yn cymryd micro-motiff ac yn ei droi’n gampwaith gwych, ynghyd â diddordeb mewn ffiseg gronynnau a’r ffordd y mae gwrthdrawiadau egni uchel yn ymddwyn, mae Protonic Games Fabien Waksman yn cymryd saith motiff o Seithfed Symffoni Beethoven ac yn defnyddio’r rhain fel gronynnau sy’n gwrthdaro ac yn trawsnewid. Mae’r agoriad ffrwydrol yn ildio i gorawl sy’n pylu, cyn cloi gyda chord solar ecstatig. O gofio teyrnged Waksman i Seithfed symffoni Beethoven, mae’n gwbl briodol ein bod yn cloi’r cyngerdd hwn gyda’r campwaith gwreiddiol, sef Symffoni Rhif 7 Beethoven.