Rhaglen
- Fern Hill
- When I Woke
- Concerto Soddgrwth
- Symffoni Rhif 4 'In memory of Dylan Thomas'
Perfformwyr
- Grant LlewellynArweinydd
- Thomas CarrollSoddgrwth
- Roderick WilliamsBariton
Pontio: Dylan Thomas
Mae ‘Fy Ffrind Dylan Thomas’ yn dod i ben mewn modd ysblennydd, gyda chyngerdd unigryw gan gerddorfa symffoni genedlaethol Cymru, i’w darlledu’n fyw ar Â鶹ԼÅÄ Radio 3.
Bydd Grant Llewellyn yn arwain perfformiad prin o Bedwaredd Symffoni Daniel Jones, a gyfansoddwyd 60 mlynedd yn ôl er cof am ei gyfaill a’i gydweithiwr yr oedd yn ei golli’n fawr, ac a fu farw’r flwyddyn gynt.
Bydd y bariton byd-enwog Roderick Williams yn canu cylch Mark-Anthony Turnage o ganeuon Dylan Thomas, When I Woke, ac rydym yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf yn y byd o waith newydd gan Andrew Lewis ar gyfer tâp a cherddorfa, yn ymgorffori llais unigryw Dylan ei hun yn darllen ei gerdd ‘Fernhill’.
Yna, i gwblhau’r rhaglen, ceir gwaith pwysig olaf Elgar, sef ei Concerto prydferth ar gyfer ’Cello, lle mae’r sielydd ifanc a anwyd yn Abertawe, Thomas Carroll, yn ymuno â’r gerddorfa.
Swyddfa Docynnau: 01248 382828