Rhaglen
- Overture
- Concerto Soddgrwth
- Symphony No. 4 in E minor
Perfformwyr
- Simone MenezesArweinydd
- Bryan ChengSoddgrwth
Cyfansoddwyr
RHAMANTUS | CAIN | EICONIG
Mae Agorawd rhamantus a hyfryd Fanny Mendelssohn yn gosod yr awyrgylch ar gyfer y cyngerdd hwn o ffefrynnau clasurol. Mae alawon rhapsodïaidd gydag acenion pizzicato yn arwain y ffordd tuag at feistrolaeth a brafado Prydeinig yng Nghoncerto poblogaidd Elgar i’r Soddgrwth, er nad yw ei sarugrwydd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf byth yn bell o’r wyneb, gyda themâu cadarn ond moel, egni sionc a rhinweddau myfyriol. Fel unawdydd, rydyn ni’n croesawu un sy’n perfformio am y tro cyntaf gyda Â鶹ԼÅÄ NOW, y chwaraewr soddgrwth sydd wedi ennill sawl gwobr, Bryan Cheng.
Yn waith anferthol sy’n llawn grym ac angerdd aruthrol, mae symffoni olaf Brahms, a’i symffoni fwyaf mae’n debyg, sef ei bedwaredd, yn cyfleu harddwch, mawredd ac emosiwn aruthrol, ac mae’n bleser gennym groesawu i’r podiwm yr arweinydd o Brasil, Simone Menezes, sydd â’i gwreiddiau yn yr Eidal, ar gyfer ei pherfformiad cyntaf gyda Â鶹ԼÅÄ NOW.