Rhaglen
- Cyfres o’r Brenin Kristjan
- Concerto Ffliwt
- Finlandia
- Symffoni Rhif 5
Perfformwyr
- Thomas SøndergårdArweinydd
- Matthew FeatherstoneFfliwt
Cyfansoddwyr
Sibelius 5
Daw ochr wladgarol Sibelius yn amlwg yn ei gerdd symffonig fwyaf anthemig ac yna ei bumed symffoni, mawlgan i natur a chefn gwlad ei famwlad. Mae’r hanner cyntaf yn cydbwyso tanbeidrwydd Ffinnaidd â cherddoriaeth ar thema Ddanaidd, gan ddechrau â chyfres o ddarnau ysgafn, achlysurol ar gyfer drama am y Brenin Christian II. Mae Carl Nielsen, cyfansoddwr enwocaf Denmarc, yn cadw'r naws chwareus i fynd gyda’i goncerto cryno a phryfoclyd i’r ffliwt, a fydd yn cael ei chwarae gan Matthew Featherstone, Prif Ffliwtydd Â鶹ԼÅÄ NOW.
Tocynnau: £15-£20
Consesiynau, Tocynnau Myfyrwyr a Thocynnau Teulu ar gael.
Llinell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ: 0800 052 1812 (Llun-Gwener).
Swyddfa Docynnau Theatr y Grand Abertawe: 01792 475715 | www.swanseagrand.co.uk Mae Theatr y Grand Abertawe yn cymhwyso Ffi Bwcio o £3 i bob trafodyn ar-lein. Mae tocynnau y telir amdanynt gyda cherdyn credyd yn bersonol a dros y ffôn yn destun Ffi Cerdyn Credyd o 2% a Thâl Postio o £1.20. Ni chymhwysir ffi i docynnau a brynir yn bersonol ac y telir amdanynt â cherdyn debyd, siec neu arian parod.