Strîm Fyw: Nathalie Stutzmann yn arwain Brahms Requiem
Creodd Brahms ddarn o waith a oedd yn nodi trobwynt yn ei yrfa, gyda’i brif gyfansoddiad corawl cyntaf.
Credir bod y gwaith wedi’i ysbrydoli gan farwolaeth ei fam. Mae’n ddarn cysegredig ond nid yw’n ymwneud â litwrgi ac mae’n cyferbynnu’n amlwg â requiems poblogaidd eraill sy’n seiliedig ar yr Offeren Ladin, fel y rhai hynny gan Berlioz a Verdi. Mae’r requiem yn addfwyn ac yn hynod bersonol. Mae Brahms wedi llwyddo i greu darn sydd fel pe bai’r un mor berthnasol heddiw ag yr oedd pan gafodd ei ysgrifennu, gyda thôn gysurol ac ysbrydol sy’n wirioneddol agos-atoch.
Nathalie Stutzmann - Arweinydd Elizabeth Watts - Soprano Jacques Imbrailo - Bariton