Rhaglen
- The ObservatoryUK Premiere
- Concerto Piano yn G
- Concerto i'r Gerddorfa
Perfformwyr
- Giancarlo GuerreroArweinydd
- Sergio Tiempopiano
Cyfansoddwyr
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Dyma’r tro cyntaf i waith Caroline Shaw, The Observatory, gael ei berfformio yn y DU. Gyda’i gyfuniad o ddryswch ac eglurder, blaendir a chefndir, yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn oedd ymweliad ag Arsyllfa Griffin ger Hollywood Bowl. Ynddo, mae’n archwilio ffyrdd newydd o edrych ar y bydysawd, gan asio’r hen a'r newydd mewn llif ymwybod nad yw byth yn dod i ben yn yr union le y dechreuodd.
Bydd concerto eiconig Ravel i’r piano, sy’n gyforiog o gyferbyniadau telynegol, alawon sionc a llinellau cymhleth cyfoethog i’r piano, yn cael ei berfformio gan y pianydd heb ei ail, Sergio Tiempo, wrth iddo ymddangos am y tro cyntaf gyda Â鶹ԼÅÄ NOW. Dathliad pur o gerddoriaeth a lliwiau offerynnau, I gloi'r rhaglen syfrdanol hon, cawn berfformiad o Goncerto Bartok i Gerddorfa, gyda’i adleisiau o gerddoriaeth werin, dan arweiniad Giancarlo Guerrero, yr arweinydd o Costa Rica sydd wedi ennill Gwobr Grammy.