Rhaglen
- Concerto Piano Rhif 1
- Piano Quartet No 1 in G minor
Perfformwyr
- Ryan BancroftArweinydd
- Stephen Houghpiano
Cyfansoddwyr
MEISTROLGAR | DISGLAIR | BYWIOG
Mae’r pianydd byd-enwog Syr Stephen Hough yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ a’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft i ddechrau tymor 2024-25 yn Abertawe gyda rhaglen o Brahms a rhai o’i weithiau mwyaf eiconig ar gyfer y piano.
Yn ddigyfaddawd a meistrolgar, mae ei Goncerto Cyntaf i’r Piano yn dal yn ffefryn gyda’r gynulleidfa a’r perfformiwr fel ei gilydd. O’r symudiad araf disglair i’r diweddglo sionc, mae’r concerto hwn yn dangos cyfuniad hynod ddiddorol o dreftadaeth gerddorol ac agwedd flaengar sy’n unigryw i Brahms.
Wedi’i berfformio am y tro cyntaf yn 1861, a’i drefnu ar gyfer cerddorfa gan Schoenberg yn 1937, mae Pedwarawd Brahms yn arddangosfa ddyfeisgar o amrywiad a thrawsnewid. Mae cymryd syniadau cerddorol ac archwilio eu posibiliadau ar unwaith yn paratoi’r ffordd ar gyfer arddangosfa ar raddfa fawr sy’n datblygu’n gyson gan ddangos ceinder, disgleirdeb a gorfoledd.