Perfformwyr
- Gavin Sutherlandconductor
- Josie D’Arbypresenter
- Tim Rhys-Evanspresenter
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Mae un o ddigwyddiadau cerddoriaeth a theuluol mwyaf poblogaidd Cymru - Proms yn y Parc Â鶹ԼÅÄ Cymru Wales - yn dychwelyd i Barc Singleton ddydd Sadwrn 9 Medi.
Bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y Â鶹ԼÅÄ yn perfformio amrywiaeth o ganeuon adnabyddus o fyd ffilm a theledu, a hefyd rhai darnau clasurol a chaneuon Cymreig traddodiadol. Bydd gwesteion arbennig, sydd i’w cyhoeddi’n fuan, yn ymuno â hwy ar y llwyfan ar gyfer noson wefreiddiol o gerddoriaeth.
Mae’r Proms yn y Parc yn rhan o benllanw nodedig blynyddol deufis o greu cerddoriaeth ym Mhroms y Â鶹ԼÅÄ, wrth i ddathliadau byd-enwog y Noson Olaf atseinio o’r Albert Hall yn Llundain ac wrth i filoedd o bobl ddod at ei gilydd mewn lleoliadau ledled y DU i fod yn rhan o hud y Noson Olaf.
Tocynnau ar werth yn www.enjoyswanseabay.com/proms a Llinell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol y Â鶹ԼÅÄ ar 0800 052 1812: £12.50 (cyn 31/7/17), £16 ymlaen llaw a £18 ar y diwrnod.