Rhaglen
- Fantasy-Overture ‘Romeo and Juliet’
- Francesca da Rimini
- The Sleeping Beauty
Perfformwyr
- Xian ZhangArweinydd
- Catrin FinchY Delyn
Cyfansoddwyr
Sleeping Beauty gyda Xian Zhang
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ a’r Prif Arweinydd Gwadd Xian Zhang yn cyflwyno prynhawn o ramant a straeon cerddorol.
Daw’r delynores Catrin Finch i ymuno â’r Gerddorfa unwaith eto yn dilyn eu hantur tair wythnos epig yn Ne America yn 2015; fel ym mhob stori dda, roedd tro tyngedfennol yn y plot a bu’n rhaid canslo perfformiad a drefnwyd o Goncerto disglair Glière i'r Delyn, felly rydym yn creu diweddglo hapus i’r stori drwy berfformio’r gwaith coll.
Bydd cerddoriaeth Tchaikovsky, yr adroddwr cerddorol gwych a chyfansoddwr meistrolgar cerddoriaeth y bale i'w chlywed cyn ac ar ôl y Concerto. Gan ddechrau gyda’i agorawd o fale Romeo a Juliet, a chloi gyda’r dehongliad symffonig o stori Francesca da Rimini a’i Gyfres Sleeping Beauty, sy’n cynnwys rhai o’i alawon mwyaf swynol a bywiog.
Tocynnau: £15
Tocynnau Teulu: cyfanswm o £15 total am 1 oedolyn a 1-2 o blant; cyfanswm £20 am 2 oedolyn a 1-4 o blant.
Rhai o dan 30 £10 pan harchebu drwy Linell Cynulleidfaoedd erbyn 23 o Fedi.
Llinell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ: 0800 052 1812
Does dim tâl am godi tocynnau drwy Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ.