Â鶹ԼÅÄ

Tri dyn yn pledio'n ddieuog i herwgipio yn Sir Gaerfyrddin

Elijah Ogunnubi-Sime (chwith), Mohammad Comrie (canol) a Faiz Shah (dde)
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elijah Ogunnubi-Sime (chwith), Mohammad Comrie (canol) a Faiz Shah (dde) yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn

  • Cyhoeddwyd

Mae tri dyn wedi pledio'n ddieuog i herwgipio yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar ddyn yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ymddangosodd Mohammad Comrie, 22, o Leeds, Faiz Shah, 22, o Bradford, a Elijah Ogunnubi-Sime, 20, o Wallington, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.

Mae'r tri hefyd yn gwadu cyhuddiadau o glwyfo'n fwriadol a chlwyfo'n anghyfreithlon yn dilyn digwyddiad honedig ar 26 Awst.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i eiddo yn ardal Brynteg, Llanybydder yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar ddyn oedd wedi teithio i’r ardal.

Cafodd person ei gludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau, ond mae bellach wedi cael mynd adref ar ôl cael triniaeth.

Cafodd Comrie, Shah a Ogunnubi-Sime eu harestio ar yr un diwrnod, ac ers hynny, maen nhw wedi’u cadw yn nalfa’r heddlu.

Mae Heddlu Gwrth-derfysgaeth Cymru (CTPW) wedi bod yn cynorthwyo swyddogion Heddlu Dyfed-Powys gyda'r ymchwiliad.

Bydd y tri yn aros yn y ddalfa tan achos llys sydd wedi'i bennu ym mis Chwefror 2025.