Menyw, 21, wedi marw dridiau ar ôl gadael ysbyty - cwest

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Bethan James ar 9 Chwefror 2020

Mae cwest wedi clywed bod menyw 21 oed a gafodd ei hanfon adref o'r ysbyty wedi marw dridiau'n ddiweddarach.

Bu farw Bethan James - merch cyn-gapten tîm criced Morgannwg, Steve James - yn Chwefror 2020.

Clywodd y cwest ym Mhontypridd fod Ms James, o Gaerdydd, wedi bod yn wael ac wedi cael triniaeth am niwmonia gyda gwrthfiotigau.

Aeth i'r ysbyty ar 5 Chwefror oherwydd poen niwrolegol, ac fe gafodd ei chyfeirio at y tîm meddygol am adolygiad.

Cafodd ei hasesu ar 6 Chwefror ac fe gafodd ei hanfon adref o'r ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Roedd Bethan James yn ferch cyn-gapten tîm criced Morgannwg, Steve James

Ar 8 Chwefror, fe gafodd ei chludo i adran frys yr ysbyty mewn ambiwlans, a bu farw y diwrnod canlynol.

Flwyddyn cyn ei marwolaeth, fe gafodd Ms James ddiagnosis o glefyd Crohn's.

Dangosodd archwiliad post mortem mai achos ei marwolaeth oedd cyfuniad o sepsis, niwmonia a Crohn's.

Wrth agor a gohirio'r cwest tan fis Medi, fe fynegodd y crwner Trisha Morgan ei chydymdeimlad gyda'r teulu.